Eich Gair Allweddol: Chwilio Drwy’r wefan hon mae Cyngor Crefft Cymru gobeithio rhoi gwybodaeth yngl?n a’r sector grefft ar hyd a lled Cymru, er mwyn cadw adwerthwyr posib o gynhyrchion Cymreig yn wybyddus yngl?n ag aelodau CCC: beth sydd ar gael a lle. Rydym yn ogystal yn dymuno cadw’r cyhoedd yn wybyddus yngl?n a lle i brynu nwyddau gan ein haelodau a sut i gysylltu a hwy. Mae’n bosib i chi gyd ein cynorthwyo i wneud hyn drwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr a darparu eich e-bost. Sefydlwyd Cyngor Crefft Cymru ym 1977. Sefydliad annibynnol, anwleidyddol yw CCC yn cynnwys cynhyrchwyr proffesiynol llawn amser sydd yn gweithio yng Nghymru. Enw cofrestredig y cwmni yw Cyngor Crefft Cymru Cyf, ac yn masnachu fel Cyngor Crefft Cymru ac sydd wedi ei ddalfyru dros y blynyddoedd i CCC. Daw incwm i GCC drwy danysgrifiadau aelodau (£50 + TAW, y flwyddyn), daw elw gweithgaredd gwerthu nawdd prosiectau penodol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru y (DEIN). Mae CCC yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gyrff Cymreig gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llygad Busnes a Bwrdd Twristiaeth Cymru i gefnogi a hybu busnesau bach a newydd.