30 Mawrth 2007 | Ydy mae'r Gwanwyn yma a phawb yn gorfod codi awr ynghynt wedi troi'r clociau yn ôl penwythnos diwethaf. Mae'r adar yn canu a'r wyn bach yn prancio yn y caeau. Mae Crefftwyr a busnesau sydd yn ddibynnol ar dymor yr haf i gyd yn paratoi. Sioe swyddogol gyntaf CCC yw'r Tyddynwyr (www.rwas.co.uk) ar faes y Sioe Frenhinol ar y 19eg a'r 20fed o Fai. Gobeithio eich gweld yno.
Darllen mwy ...CCB aelodau CCC 2007 Chwefror 14eg ym Mhafiliwn y Llywydd ar Faes y Sioe Frenhinol, am 2 o'r gloch - croeso i holl aelodau a gweinir lluniaeth. Fe ddylai'r Agenda a phapurau cefnogol fod wedi eu hanfon erbyn hyn, os nad ydych wedi derbyn copi yna ffoniwch y swyddfa, 01938555313 neu e-bostio: info@walescraftcouncil.co.uk.
Darllen mwy ...Ionawr 21ain- 24ain 2007 Ffair Wanwyn Cymru, Venue Cymru, Canolfan Gynhadledd Gogledd Cymru, Llandudno. Mae'r Ffair Wanwyn Conwy Cymru yn ddigwyddiad masnachu ac ar agor i Brynwyr Masnach yn unig. Bydd adran oriel yn unig sydd ar agor i'r cyhoedd a'r masnach a bydd yr arddangosion ar werth, casglu ar y diwrnod olaf yn y cyntedd o'r brif arddangosfa. Prif Lansiad yr oriel (pecynnau'r wasg ar gael o'r dderbynfa neu cyn y sioe gan CCC) info@walescraftcouncil.co.uk) gyda'r Arglwydd Dafydd Ellis Thomas am 7.00pm, ddydd Sadwrn Ionawr 20fed 2007, a chyflwynir gwobr stondin orau a gwobrau eraill yn ystod y sioe. Holl adwerthwyr cofiwch anfon eich e-bost a manylion cyswllt i dderbyn mwy o wybodaeth, holl arddangoswyr cofiwch anfon eich e-bost gyda manylion cyswllt info@walescraftcouncil.co.uk Gall busnesau gofrestru wrth y drws ar gyfer Ffair Wanwyn Cymru, cofrestru yn gyflym galwch 01938 555 313.
Darllen mwy ...Mae Digwyddiad Nadolig Abertawe, tu allan i'r Amgueddfa Waterfront, (drwy gydol mis Rhagfyr) yn argoeli i fod yn sioe hwyliog a phrysur. Mae Cyngor Dinas Abertawe yn bwriadu darparu llawr rhew, yn ogystal ag atyniadau gaeaf eraill. Mae Ffair Aeaf Frenhinol Gymreig, Tachwedd 27ain ac 28ain, yn barod yn cael ei fwcio gan arddangoswyr yn gyflym iawn, ac yn ôl traddodiad hefyd yn ddigwyddiad prysur iawn.
Darllen mwy ...Sefydlwyd ym 1977, bydd Cyngor Crefft Cymru yn dathlu 30 mlynedd blwyddyn nesaf. Mae'r cyfarwyddwyr yn gobeithio y byddwn yn dyblu ffigyrau cyfredol targed aelodaeth.
Darllen mwy ...Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai cyffrous i Gyngor Crefft Cymru. Rydym wedi profi Ffair Wanwyn Cymru, Showcase Iwerddon a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Darllen mwy ...